BBC WALES
Mwy o Stwff plîs
Stwff ydy enw albwm newydd Llwybr Llaethog Mae yna gryn dipyn o gynnwrf wedi bod am y cynnyrch gan fod yna doreth o artistiaid eraill yn cyfrannu at y casgliad sydd bellach yn dipyn o draddodiad gan y grwp.
Dros y blynyddoedd mae John Griffiths a Kevs Ford wedi cydweithio gyda Datblygu, Ty Gwydr, Tystion ac Anweledig a nifer o artistiaid eraill ac yn yr albwm newydd mae cyfraniadau gan Lauren Bentham, Geraint Jarman, Sian James, Gai T, Ceri C, Jaffa ac MC Sleifar.
Ffurfiwyd Llwybr Llaethog nôl ym 1986 pan ryddhawyd eu sengl gynta, Dull Di Drais, ar label Recordiau Anrhefn. Daeth sengl arall ym 1987 or enw Tour De France ac ym 1988 fe ddaeth eu halbwm gynta, Da.
Fe welodd y grwp eu cyfnod prysura ar ddechraur
90au - erbyn hyn wedi
hen sefydlu ac yn
mynd o nerth i nerth gan fod, bellach, yn un o gonglfeinir sîn
gerddoriaeth yng Nghymru.
Heb os, Llwybr Llaethog oedd un or grwpiau arbrofol cynta i Gymru ei glywed ac mae eu cerddoriaeth yn dal i fod yn arloesol.
Maen wir dweud fod yna nifer o wahanol elfennau wediu hymgorffori yn eu cerddoriaeth - acid house, hip hop, reggae, dub, rap a chryn ymdriniaeth ar rhythmau Affricanaidd.
Undeg pedwar o draciau sydd ar Stwff gyda phob trac yn sefyll ar ei ben ei hun.
Dangosir meistrolaeth y grwp wrth iddyn nhw asio yr holl arddulliau gwahanol sydd yn eu cerddoriaeth i greu campwaith syn gwbl unigryw. Y trac cynta ydy Rwtsh a Rhyw Hen Fo
Yr "hen foi" ydyr darlledwr Gwilym Owen, sydd wedi gwirioni ar y ffaith iddyn nhw ddefnyddio ei lais.
Cyfeirir ato fel "rhyw hen foi" oherwydd ei negyddiaeth tuag at y gerddoriaeth ar sîn yng Nghymru "...a dwin dal i deimlor embaras efor Sîn Roc Gymraeg.
"Maer egni sydd yn y trac yn anhygoel - y bît yn un pwerus ac yn ddelfrydol i agor yr albwm."
Llais hudolus Sian James
sydd iw glywed yn yr ail drac, Cracataca. Drum
n Bass ydy natur y trac hwn a maer alaw mae Sian yn ei chanu
yn gyferbyniad diddorol ir gerddoriaeth.
Mae cyfraniad Harvinder Sangha - a gyfrannodd hefyd i Hen Wlad Fy Mamau rai blynyddoedd yn ôl - yn un pwysig i lif y gân gydar bît ethnig yn amlwg ac yn sicr yn un o uchelbwyntiaur albwm syn dangos yn eglur faint o feistri ar eu crefft ydy Llwybr Llaethog, yn gosod y llais mewn mannau allweddol yn y cyfoeth o gerddoriaeth.
Uchelbwynt arall ydyr wythfed trac, Enfys
Dub gyda Llwybr Llaethog
yn arbrofi gydar
clasur Maes E gan Datblygu. Yn gynnil mae melodir
gân iw chlywed ynghanol y bît tecno gyda llais Dave R. Edwards
yma
ac acw yn dweud "...ym Maes E
Fedrwn ni ddim peidio â son am gyfraniadau Lauren Bentham a Geraint Jarman i Stwff. Lauren, prif leisydd Estella, yn canu ar y trac Complicated Sex Dub.Mae yna naws hamddenol dybaidd ir trac - syn arbrofol ac yn dangos hyblygrwydd llais Lauren.
Mae Baer Môr Ladron yn drac reggaedub bendigedig gyda Geraint Jarman yn ei leisio - maen creu naws drwyr defnydd o ddrymiau ac amrywiaeth o effeithiau swn - effeithiol iawn.
Deg allan o ddeg i Stwff - casgliad arbennig o draciau gan feistri ac arloeswyr y sin dub yng Nghymru.
LLWYBR LLAETHOG
STWFF
(NEUD nid DEUD)
A BAND with a name to make your brain hiccup release an album with a title that must please God, be an acronym and a black and white cover showing nothing but a ravished 125cc motorbike. They clearly don't want anyone to buy this.
But press play, and a magnificent phoenix rises noisily from the ashes of fashion. Filled with pulsing electronic blips, rubber band lead lines amid bass that alternates between square wave filling-rattling and warm dub humming. Squelchy sawtooth squeals and random crones vie for attention amidst an onslaught of hyperactive sequencer overloading rhythms. Here dense and hypnotic, there spacious and beguiling, elsewhere disquietingly S4C newsdesk, its dance music Dai, but not as we know it.
The few lyrics are mostly in Welsh, so they could mean anything. Luckily in this abstract realm words play a distant second fiddle to the music. So it goes with Cracataca, ethereal female vocals backed by sparse machine gun drums and torpedo bass runs - the unintelligible Cymru-babble only adds to it's otherworldly beauty.
I've lived here all my life, have a suitably tongue-twisting name and an accent that is becoming more "valleys" all the time, like. But I've never heard any of this stuff before. Is there a secret handshake I've not been told about, boyos? What else lurks out there under the guise of the Welsh language.
Mel Lewis
RIFIW BUZZ
LLWYBR LLAETHOG v Y CYRFF - "LLANRSWT"
Hipdub reggaehoppers LL-LL are probably John Peel's 2nd favourite Welsh language act post Gorky's. Y Cyrff were the 80s rebel rockers whose lead singer, Mark Roberts, went on to form Catatonia. Here the former give the latter's anthem Cymru Lloegr a Llanrwst an ADF-style punk/dub makeover. The result is fast, furious and funky, with samples of someone who sounds suspiciously like SFA's Gruff Rhys. Not that the Welsh music scene is incestuous or anything.